Diolch am fod eisiau cymryd rhan

Rydym ni bellach yn dadansoddi eich holl adborth yn y sgyrsiau hyd yma.

Mae angen i Gyngor y Celfyddydau fod yn ymgysylltu â phob rhan o Gymru gyfoes. Ar hyn o bryd, rydym eisiau gwthio’r ffiniau a newid natur y sgwrs a gawn, hyd yn oed gyda’r rhai sydd mewn cyswllt â ni amlaf ac sydd eisoes yn gwybod beth a wnawn. Rydym eisiau gwneud hyn er mwyn i ffocws ein gwaith yn y dyfodol a gweithredoedd y celfyddydau fod yn fwy clir.

Ar yr adeg hon, mae angen i’n sgwrs a’n hymgysylltiad ymestyn yn ehangach a dyfnach. Gwyddom y gwnaed rhai camau i’r cyfeiriad cywir yn y cyfnod diweddar, felly ar hyn o bryd rydym yn helpu i ailfeddwl am safle’r celfyddydau mewn addysg, safle’r celfyddydau mewn cymunedau, y rôl y gallant chwarae wrth rymuso pobl, wrth roi gwerth i gydraddoldebau, sut gall y celfyddydau helpu i ffurfio cenedl ddwyieithog, sut gallant wella lles, a sut gallant ehangu gorwelion a siarad am Gymru yn y byd.

Dyma gyfnod heriol i’r celfyddydau sy’n derbyn arian cyhoeddus yng Nghymru. Nid am nad yw pobl yn poeni amdanynt – mae niferoedd mawr o’r cyhoedd yn parhau i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt. Ac nid am fod y gwaith o safon isel – mae’r adborth, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn tystio i’r gwrthwyneb.

Mae’r celfyddydau’n parhau i fod yn fregus am fod pwysau economaidd parhaus ar arian cyhoeddus yn gorfodi penderfyniadau anghyfforddus ynglyn â pha swyddogaethau mewn cymdeithas ddylai barhau i dderbyn y lefelau presennol o fuddsoddiad. Yn benodol, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gorfod mynd i’r afael â gostyngiad yn ei incwm fel dosbarthwr loteri. Ac os yw am fod ag uchelgais i’r celfyddydau a’u cyrhaeddiad, mae hyn oll yn golygu bod yr ychydig flynyddoedd nesaf yn galw am ffocws penodol ar rai nodau allweddol.

Rydym yn falch eich bod eisiau cyfrannu eich barn.

I helpu i danio’r drafodaeth, dyma ambell ysgogiad cyn troi at y fforwm trafod a’r platfformau ar-lein a fydd yn rhan o’n Sgwrs Greadigol i Gymru Gyfan.

Nid diben yr hyn a ganlyn yw cyfyngu ar yr hyn yr hoffech siarad amdano. Os oes gennych faterion yr ydych ar dân i’w gwyntyllu, rydym eisiau clywed amdanynt. Mae angen i’r sgyrsiau hyn fod am bobl, lleoedd a phrofiadau.

Ymunwch yn y sgwrs yn fan hyn.

#SgwrsGreadigol